O'r diwedd fe iachaed fy nghlwy', Na lwfrhaed credadyn mwy; Ei air a saif, ei 'ddewid wen, Er oedi'n hir, a ddaw i ben. Dyma gyfarfod hyfryd iawn, Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn; Myfi yn dlawd heb feddu dim, Ac yntau'n rhoddi pob peth im'. Y bywyd wyf yn awr yn fyw, Sy'n meddu hapusrwydd o bob rhyw; Hapusrwydd yw, O! d'wedwch pwy A wela ddiwedd arno mwy.William Williams 1717-91 Tôn [MH 8888]: Tawelwch (<1835) gwelir: Dyma gyfarfod hyfryd iawn 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' Wrth droi fy ngolwg yma i lawr |
Eventually may my ailment be healed, Nor let the believer flinch any more; His word shall stand, his blessed promise, Despite long ages, which shall come to an end. Here is a very delightful covenant, I bare and Jesus full; I poor, not possessing anything, And he giving everything to me. The life which I now live, Is possessed of happiness of every kind; It is happiness. O tell! Who Will see the end of it any more?tr. 2009 Richard B Gillion |
|